P-04-452 : Hawliau Cyfartal i Bobl Ifanc Tiwb-borthedig

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod cyllid ar gael i sicrhau bod yr offer a’r gwasanaethau hanfodol sydd eu hangen ar blant a phobl ifanc tiwb-borthedig ar gael iddynt.

 

Er enghraifft, ar hyn o bryd mae hawliau cyfartal ar gyfer pobl ifanc tiwb-borthedig yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn syrthio rhwng 2 gategori o angen sydd wedi’u diffinio. Mae Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn dweud oherwydd nad ydynt yn blant sydd angen Gofal Iechyd Parhaus - ‘dim ond’ plant tiwb-borthedig ydynt - ni all ariannu’r offer a’r gwasanaethau hanfodol yr ydym eu hangen. Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Caerffili hefyd yn dweud na allant helpu oherwydd bod gan y plant hyn anghenion iechyd sylweddol. Mae’r diffiniadau hyn yn cau Pobl Ifanc Tiwb-borthedig allan ac felly’n gwahaniaethu yn eu herbyn, ac rydym yn mynnu bod ymchwiliad yn cael ei gynnal i’r arferion hyn yng Nghaerffili. Er nad yw’n pobl ifanc yn gymwys i gael cymorth naill ai gan y gwasanaethau iechyd ym Mwrdeistref Caerffili neu’r gwasanaethau cymdeithasol, mae gennym berson ifanc sydd angen gofal bob awr o’r dydd - yr un peth â phlentyn newydd-anedig - sydd yn aml ag anableddau oherwydd salwch sy’n peryglu bywyd.

 

Gwybodaeth ychwanegol

Mae angen ‘label’ ar ein pobl ifanc er mwyn iddynt allu gael mynediad awtomatig at gyllid ar gyfer offer a gwasanaethau hanfodol. Ar hyn o bryd, mae dadlau cyllidol rhwng adrannau’n digwydd yn dilyn cais am unrhyw beth ar gyfer Person Ifanc Tiwb-borthedig, a ni ddylai Rhieni/Gofalwyr fod yn rhan o’r dadleuon hyn. Y cyfan sydd ei angen arnom yw help i’n pobl ifanc cyn gynted â phosibl. Gofynnwn fod ateb cyflym yn cael ei ganfod i’n Pobl Ifanc ac er lles eu Rhieni/Gofalwyr, a bod yr ateb hwnnw’n un synhwyrol sy’n berthnasol yn yr hir dymor.

 

Prif ddeisebydd: Dr Tymandra Blewett-Silcock

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:  29 Ionawr 2013

Nifer y llofnodion: 142